Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

ST 12

Ymchwiliad i Waith Athrawon Cyflenwi

Tystiolaeth gan : Prifathro - Uwchradd

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1 - Beth yw eich barn ar ba mor gyffredin yw'r defnydd o athrawon cyflenwi, wedi'i gynllunio a heb ei gynllunio?

 

 

Fel arfer ar gyfer absenoldebau athrawon tymor byr megis diwrnod neu ddau defnyddir Uwch Gymhorthyddion Cyflenwi am resymau ariannol ac ansawdd yn bennaf.  Mae’r Ysgol wedi buddsoddi mewn dau ohonynt i sicrhau parhad y gwasanaeth : maent wedi eu hyfforddi’n briodol ac mae’r defnydd yn dda iawn gan eu bod yn adnabod y sefydliad a’r plant yn dda ac yn cael eu parchu ganddynt.

 

Mae problemau difrifol ar adegau gael hyd i athrawon cyflenwi am resymau byr neu dymor hir sydd yn arbenigwyr pwnc penodol.  Pan fydd hyn wedi’i gynllunio mae’n broblem fawr ond ar fyr rybudd ar fore’r absenoldeb yn aml yn amhosibl.

 

 

Os ydych o'r farn bod hyn yn arwain at broblemau (er enghraifft, ar gyfer ysgolion, disgyblion neu athrawon), sut y gellir eu datrys?

 

 

Mae’n anodd iawn ateb y cwestiwn hwn.  Mae prinder athrawon ar gyfer swyddi parhaol mewn rhai pynciau heb sôn am rai cyflenwol. Dylai’r Cynulliad ar y cyd â’r Awdurdodau Lleol gynllunio system arbennig o recriwtio, cofnodi a chynnal athrawon cyflenwol gyda rhestri cyfoes sydd yn cael eu huwchraddio’n barhaus ar gael i ysgolion

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§    X

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 2 - Beth yw eich barn ar yr amgylchiadau pan ddefnyddir athrawon cyflenwi? Er enghraifft: y math o ddosbarthiadau maent yn dysgu; y math o weithgareddau dysgu sy'n digwydd dan oruchwyliaeth athrawon cyflenwi; a ydynt yn gymwys i addysgu pynciau perthnasol.

 

 

Pan fydd athrawon cyflenwol yn dysgu eu pwnc eu hunain mae gobaith y bydd yr addysgu o safon, ond nid yw llawer o’r athrawon hyn wedi cael cyfle i fynychu cyrsiau hyfforddi erstalwm ac mae dylliau dysgu ac addysgu yn newid yn barhaus.

 

Os nad ydynt yn arbenigwyr pwnc yn aml cynnal rhyw fath o addysgu maent yn eu gwneud ac felly mae’n amlwg y bydd y safonau’n dirywio.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

Fel y nodwyd uchod a chynnal cyrsiau rhanbarthol rheolaidd i ail hyfforddi athrawon cyflenwi.

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§    x

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 3 - Beth yw eich barn ar effaith y defnydd o athrawon cyflenwi ar ganlyniadau disgyblion (gan gynnwys unrhyw effaith ar ymddygiad disgyblion)?

 

 

Os nad yw’r athrawon yn arbenigwyr mae’n amlwg y bydd safonau’n disgyn.  Os na fydd y disgyblion yn gweld eu bod yn cael gwersi go iawn ac yn teimlo eu bod yn gwella eu gwybodaeth gall problemau ymddygiad godi yn sicr.

 

Mae enghreifftiau prin o athrawon cyflenwi rhagorol ar y llaw arall.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

Amlinellwyd hyn uchod eisoes.

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§    x

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 4 - Beth yw eich barn ar Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus athrawon cyflenwi ac effaith bosibl y Model Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol?

 

 

Nodwyd eisoes uchod bod angen i’r Cynulliad a’r Cyngor Addysgu roi sylw manwl i’r mater hwn.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

Cynllun cenedlaethol wedi’i strwythuro a’i ariannu’n briodol.

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§      x

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

 

 

Cwestiwn 5 - Beth yw eich barn ar drefniadau rheoli perfformiad ar gyfer athrawon cyflenwi?

 

 

Ar hyn o bryd mae hyn bron yn amhosibl os nad yw’r athro cyflenwi mewn un ysgol am gyfnod gweddol hir

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

Rhaid ymateb i’r gofyn o fewn strwythur briodol newydd – efallai dylai’r Consotia newydd chwarae rôl yn hyn hefyd.

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§     

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§    x

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 6 - A ydych o'r farn bod gan awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol ddigon o oruchwyliaeth dros y defnydd o athrawon cyflenwi?

 

 

Nid wyf yn credo bod gan yr awdurdodau lleol a’r consortia nemor dim rôl yn hyn. Efallai bod yr awdurdodau’n cadw rhestri o athrawon llanw ond yn aml gan fod yr athrawon yn gweithio mewn nifer o ysgolion mae’n anodd cadw trac arnynt.  Mae angen system gwell.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

Atebwyd hyn eisoes

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§      x

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 7 - A ydych yn ymwybodol o unrhyw amrywiaeth leol a rhanbarthol yn y defnydd o athrawon cyflenwi? Os felly, a oes rhesymau am hynny?

 

 

Dim felly, ond yn aml trwy chwilota a holi ei hun mae’r ysgol yn dod o hyd i rywun yn aml iawn, mater o lwc felly.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

Gweler uchod

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§      x

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 8 - A oes gennych unrhyw farn ar asiantaethau cyflenwi a'u trefniadau sicrhau ansawdd?

 

 

Enghreifftiau prin iawn sydd gennyf o ddefnyddio asiantaethau cyflenwi. Yn anffodus nid oedd y rhai a ddaeth yma o ansawdd o gwbl ac ni fyddwn yn mynd at asiantaeth ond mewn argyfwng mawr.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

System cenedlaethol canolog heb asiantaethau

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§      x

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 9 - A ydych yn ymwybodol o unrhyw faterion penodol yn ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg? Os felly, beth ydynt?

 

 

Mae’n arbennig o anodd cael athrawon cyflenwi cyfrwng Cymraeg ac ar adegau bu’n rhaid bodloni ar athrawon di-Gymraeg er mwyn parhad y pwnc.  Mae hyn yn hollol annerbyniol ond mewn argyfwng sut ellir gweithio fel arall.

 

 

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 

Rhaid rhoi sylw arbennig i hyn o fewn cynllun cenedlaethol

 

 

Pa mor arwyddocaol yw'r mater hwn? (Dewiswch un opsiwn)

 

1 - Mae hon yn broblem fawr a brys.

§      x

 

2 - Mae hon yn broblem sydd angen sylw.

§     

 

§    3 - Mae hon yn broblem fach.

§     

 

4 - Nid yw'n broblem.

§     

 

Cwestiwn 10 - Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

 

Rhaid cynllunio’n llawer mwy trylwyr ar gyfer sicrhau athrawon cyflenwi priodol da a sicrhau cynllun cenedlaethol i hyrwyddo hyn fel mater o frys.

Cwestiwn 11 - A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?

 

Dim byd penodol arall